Hanes tro ar fyd yw hwn. Croesawodd Cymru’r unfed ganrif ar hugain a hithau’n cychwyn ar daith i gyfeiriad democrataidd newydd. Ar y daith honno, ymddangosodd y Senedd ym Mae Caerdydd yn dirnod gwleidyddol a phensaernïol, yn fynegiant gwefreiddiol o ddyfalbarhad ac adnewyddiad.